Annwyl Riant / Warcheidwad

Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn ysgol gyfeillgar a chroesawgar tuag at y disgyblion i gyd. Rydym yn cynnig awyrgylch yn llawn gofal a chefnogaeth; rhydd hyn y cyfle i’ch plentyn i dyfu yn addysgol ac i lwyddo yn academaidd.  Dyma ddywed Adroddiad Arolygwyr ei Mawrhydi yn 2006 ‘Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn Ysgol dda, a chanddi nifer fawr o nodweddion arbennig’.

Mae copi o’r Adroddiad ar gael yn yr ysgol. Mae safon uchel CA3 a CA4 yn glod i waith caled yr athrawon a’r disgyblion. Yn ogystal â hyn, rydym yn ymfalchio yng nghyraeddiadau ychwanegol ein disgyblion - un ai mewn Chwaraeon, Cerdd, Cynllun Gwobr y Dug Caeredin, neu, yn syml, yr unigolyn cyflawn - mae pob un yn bwysig i ddatblygu talentau pob disgybl i’r eithaf.

Ymfalchiwn yn y ffaith fod gennym yma berthynas glos gyda’r rhieni - perthynas sydd yn cael ei weithio a’i ddatblygu yn barhaus. Mae’r ysgol yn croesawu y cyfle i gyd-weithio yn agos er lles eich plentyn.  Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn fuan. Petai gennych unrhyw gwestiynau neu bryder o unrhyw fath, cysylltwch â ni, a byddaf yn falch o drefnu cyfweliad ar adeg fydd yn gyfleus i bawb.



Yn gywir

Mr David Thorp

Pennaeth